Drama
Dewch i brofi gwefr ein cyfresi drama cyffrous
Archwiliwch ein cyfresi
drama gafaelgar
Ymgollwch mewn byd o emosiynau cryf a straeon gafaelgar. Mae ein cyfresi drama’n dal dychymyg ein cynulleidfaoedd gyda’u straeon pwerus a’u cymeriadau cofiadwy.Y Streic Fawr
Bydd Y Streic Fawr, drama tair rhan gan Cynyrchiadau Mojo, yn dilyn hanes un o’r anghydfodau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Mae 30 Ebrill 2026 yn nodi 25 mlynedd ers i 86 o weithwyr y ffatri rhannau ceir ddechrau ar streic hirfaith yn dilyn newidiadau i’w tâl ac amodau gwaith. Parhaodd y brotest am bron i dair blynedd. Er i’r gweithwyr ennill eu hachos yn y llysoedd, ni chafodd y cwmni - a gafwyd yn euog o dorri’r gyfraith - unrhyw gosb gan Lywodraeth Prydain. Ni dderbyniodd y gweithwyr yr iawndal am y ddwy flynedd ac wyth mis o fod ar y llinell biced.
A hithau wedi’i seilio ar brofiadau go iawn y gweithwyr a’u teuluoedd, mae’r ddrama yn gwneud defnydd helaeth o’u hatgofion i adrodd stori am arwroldeb y Cofi cyffredin a chyfnod cythryblus yn hanes Gogledd Orllewin Cymru. Bydd y gyfres yn rhoi gogwydd newydd drwy edrych ar yr effaith gafodd y Streic ar deuluoedd, ffrindiau a chymuned, gan ddilyn straeon personol y cymeriadau tu hwnt i’r llinell biced.
Yn y prif gast mae Rhodri Trefor (Gwlad yr Astra Gwyn; White Gold; The Indian Doctor) yn portreadu Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru. Mae Gruffudd Glyn (Steeltown Murders; The Martian) yn chwarae rhan Gerald Parry, areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd gysylltiedig â’r streic, tra bod Rhys ap Trefor (Pobol y Cwm; Dal y Mellt; Torchwood) yn portreadu John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli’r 86 o weithwyr yn y llys.
Ymhlith aelodau eraill y cast mae Carwyn Jones , Sion Eifion, Emyr Gibson, Catrin Powell, Manon Wilkinson a Betsan Ceiriog.
Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Llyr Morus, ei hysgrifennu gan Ffion Dafis, ac wedi’i chyfarwyddo gan Huw Chiswell. Mae’r ffilmio eisoes wedi dechrau yn ardal Caernarfon, gyda’r bwriad o ddarlledu’r gyfres ar S4C yn hwyrach eleni.
Meddai Llyr Morus, Cynhyrchydd Y Streic Fawr:
“Fel un a gafodd ei fagu yng Nghaernarfon, sy’n cofio canu corn wrth basio’r gweithwyr ar y lein a mynd i’r ralïau ar Y Maes, mae cael dweud y stori yma, a’r ffaith bod y gweithwyr wedi ymddiried yn Cynyrchiadau Mojo i wneud hynny’n fraint.
“Mae’r aberth wnaeth yr 86 o ddynion a merched bum mlynedd ar hugain yn ôl yn anferthol. Arweiniodd yr aberth yna at newid oedd am sicrhau gwell amodau gwaith i weithwyr y dyfodol, felly mae’r diolch yn fawr iddyn nhw. Mae nodi’r hanes yn bwysig ar gyfer addysgu cenedlaethau’r dyfodol - “Ni heddiw, Chi fory”.
“Hyd heddiw mae effaith y streic i’w weld yng Nghaernarfon gyda ffrindiau, teuluoedd a chymunedau wedi ei chwalu. Mae’n bwysig bod y stori hon yn cael ei dweud yn onest, gyda chydbwysedd a gyda hiwmor, ffraethineb ac angerdd y Cofi.”
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:
“Mae Y Streic Fawr yn dod â stori un o’r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw yn hanes modern Cymru’n fyw gyda grym i’n gwylwyr; stori sy’n dal i losgi oherwydd yr anghyfiawnder dwfn sydd wrth ei chraidd.
“Nid edrych yn ôl yn unig mae’r cynhyrchiad hwn - mae’n herio, yn ysgwyd, ac yn mynnu sylw. Gyda drama afaelgar a llawn tensiwn, mae’n taflu goleuni miniog ar y gwir, gan sicrhau nad yw’r hanes hwn yn pylu nac yn diflannu.”





Yr Alwad
Prosiect drama cyffrous ac arloesol ar gyfer cynulleidfa 16-24 ‘Hansh’ S4C.
Dros 7 galwad ffôn rhwng Dylan a'i fam, Emma, bydd y galwadau ffôn yn mynd â'r gynulleidfa ar daith o ddatblygiad noson allan hwyliog Dylan gyda criw o ffrindiau yng Nghaerdydd i erchylldra ei sefyllfa wrth iddo gael ei ddilyn a'i wawdio gan griw o arteithwyr. Gall ei fam neud dim ond gwrando, phoeni a thorri ei chalon yn ei chartref yn y Rhondda wrth i'w mhab gael ei guro.
Bydd fersiwn 7 x 2’ ar gyfer Hansh (TikTox / YouTube) ac ffilm fer 1 x 15’ ar gyfer S4C llinol a gwyliau ffilm. Dyma’r gyfres ‘Microdrama’ / ‘Verticaldrama’ gyntaf yn y Gymraeg.









