Plant
Rydym yn mynd â’n gwylwyr ifanc ar deithiau gwefreiddiol llawn dychymyg a hwyl. Gyda chymeriadau lliwgar a straeon sy’n swyno, mae ein sioeau’n ffefrynnau gan blant a rhieni.
Archwiliwch Ein
Rhaglenni Plant Cyffrous
Rydym yn creu rhaglenni plant hudolus sy’n tanio’r dychymyg ac ysgogi creadigrwydd. Bwriad ein sioeau yw diddanu, addysgu a dal sylw cynulleidfaoedd ifanc.
Parc Glan Gwil
Cyfres llawn hwyl, hiwmor a lliw ar gyfer Cyw (S4C). Mae Parc Glan Gwil yn addo i fod yn gyfres bydd plant bach o 0 i 6 oed yn ei mwynhau a throi ati dro ar ôl tro.
Mae’r gyfres wedi ei lleoli mewn pentref gwyliau sydd yn llawn cymeriadau lliwgar a hoffus – y lle ddelfrydol i blant bach glywed Cymraeg naturiol a chadarnhaol.
Efallai bydd y plant yn mopio ar Misha Mop, y glanhawraig hapus sy’n cadw popeth yn sgleiniog; neu’n dotio ar Sioned Siop y perchennog siop sydd yn hoffi trefn; neu beth am Hywel Hwyl sy’n hoff o ddiddanu gyda thriciau a gemau; a Dion Diogelwch sy’n sicrhau bod pawb yn saff. Cai Caffi sy’n rhedeg y caffi, ac mae ei ddoniau coginio yn ddiddorol iawn! Draw yn y stablau mae Cadi Ceffylau yn cadw trefn ar yr holl geffylau. Ffrind pennaf a chydweithwraig Misha Mop yw Glynwen Glanhau – cymeriad llawn bywyd sy’n hoffi prynu clipiau gwallt sbarcli yn fwy na dim arall yn y byd. Yno i gyfarch pob ymwelydd mae Derwena Derbynfa, wastad gyda gwen. Mae angen cadw trefn ar bawb, a dyna yw prif ddyletswydd Tref Trefn, y trefnwr adloniant gorau yn y byd i gyd. Perchennog y parc yw Syr Gwil, ac mae pawb yn gweithio’n galed i gadw Syr Gwil yn hapus a sicrhau fod Parc Glan Gwil y parc gwyliau gorau yng Nghymru.
Mae’r penodau i’w gweld ar:














