Drama
Dewch i brofi gwefr ein cyfresi drama cyffrous
Archwiliwch ein cyfresi
drama gafaelgar
Ymgollwch mewn byd o emosiynau cryf a straeon gafaelgar. Mae ein cyfresi drama’n dal dychymyg ein cynulleidfaoedd gyda’u straeon pwerus a’u cymeriadau cofiadwy.Signal
Cyfres ddrama fertigol 60 pennod ar gyfer TikTok (Hansh / S4C)
Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama fertigol newydd ar gyfer sianel TikTok Hansh, gyda’r stori ramant i gael ei hadrodd dros 60 pennod.
Bydd y ffilmio ar gyfer Signal, sy’n dilyn y berthynas rhwng bachgen o Gaerdydd a merch o gefn gwlad Cymru, yn dechrau ar Faes Sioe Frenhinol Cymru cyn ymweld â Eisteddfod y Garreg Las, Bangor a Chaerdydd.
Daw’r comisiwn newydd, wedi’i chynhyrchu gan Gynyrchiadau Mojo, yn sgil llwyddiant drama fertigol gyntaf S4C, Yr Alwad (Cynyrchiadau Mojo), gydag enwebiadau yn y Gwobrau Ffilm Cenedlaethol yng nghategori’r Gyfres Fertigol Orau ac yng Ngwobrau Digidol Broadcast yn y categori Ffurf-Fer Orau wedi’i Sgriptio.
Mae dramâu fertigol yn cynnwys cyfres o benodau byr a bachog sy’n para munudau’n unig, wedi eu ffilmio yn benodol er mwyn ffitio sgrîn ffôn a’u cyhoeddi ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.
Mae S4C yn benderfynol fod y comisiwn arloesol yn fodd o roi cyfle hefyd i ddatblygu talent newydd. Bydd gan y gyfres bedwar o awduron newydd, sef Brynach Higginson, Mari Izzard a Rhiannon Williams, ac awdur a chyfarwyddwr Yr Alwad, Alexander Williams, gyda Gwenno Hughes (Hafiach, Fflam) yn arwain y tîm.
Ar ôl galwad gastio agored, bydd y gyfres hefyd yn rhoi’r cyfle i nifer o wynebau newydd serennu ar y sgrîn, gyda Gwenan Lloyd, Gabriel Owen a Joshua Romain yn chwarae rhannau Elliw, Alffi a Tom.
Bydd Siriol Ousey (Hafiach) yn ymddangos fel Angie a Lili Mai Davies (Y Coridor, Bregus) yn chwarae Catrin.
Dywedodd Guto Rhun, Comisiynydd Cynulleidfaoedd Ifanc S4C:
“Mae arferion gwylio yn parhau i newid ac mae’n rhaid bod yn flaengar, yn enwedig wrth greu cynnwys sy’n cyrraedd cynulleidfaoedd iau."
Mae’r gyfres yn ffilmio ar hyn o bryd ac yn cael ei chyhoeddi Ionawr 2027.
“Dwi wrth fy modd yn gweld S4C yn gweithio gyda’r cwmnïau cynhyrchu i arbrofi ar gynnwys cyffrous sy’n diddanu a difyrru ein cynulleidfaoedd.”
Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C
“Mae dramâu fertigol yn fformat rhyngwladol poblogaidd ac yn adlewyrchu gweledigaeth S4C i drawsnewid i fod yn ddarlledwr digidol-yn-gyntaf.
“Rydym yn falch iawn yn S4C o lwyddiant Yr Alwad ac yn edrych ymlaen at wylio mwy o gynnwys sydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae cynnwys beiddgar sy’n teithio yn allweddol wrth i ni ehangu ein gwylio.”





Drama
Cynyrchiadau Mojo yn datblygu drama ar gyfer S4C am y cyfleoedd a gollwyd i atal Neil Foden
Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama dair-rhan gan Gynyrchiadau Mojo fydd yn archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd i atal y cyn-brifathro a’r pedoffeil, Neil Foden.
Cafodd Neil Foden, cyn-brifathro yn Ysgol Friars ym Mangor ei arestio yn 2023. Derbyniodd ddedfryd o 17 mlynedd dan glo'r flwyddyn ganlynol wedi iddo ei gael yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Yn 2025 daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i atal y prifathro rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.
Bydd y ddrama yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwraig, Jan Pickles. Bydd y gyfres yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin. Bydd y cymeriadau hyn, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol.
Mark Lewis Jones (Y Golau: Dŵr, Y Sŵn, The Crown, Dal y Mellt) fydd yn chwarae rhan Neil Foden.
Bydd y ddrama yn archwilio sut y gwnaeth Foden fanteisio ar sefyllfaoedd personol y merched, yn ogystal â methiannau’r gweithdrefnau diogelu, a’r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach.
Yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu, mae’r awdur a’r cwmni cynhyrchu hefyd yn cydweithio â newyddiadurwr, sydd yn bwynt cyswllt rhyngddynt â rhai oedd ynghlwm â’r hyn ddigwyddodd, neu wedi eu heffeithio gan y didigwyddiadau.
Yn ystod y cyfnod datblygu, ac fel mater o gwrteisi, mae’r cwmni cynhyrchu hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r heddlu wedi sicrhau bod holl oroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o'r prosiect, ac mae'r cwmni cynhyrchu wedi cynnig mynediad at gefnogaeth broffesiynol iddynt.
Mae Cynyrchiadau MOJO wedi bod yn datblygu’r gyfres gyda S4C ers 18 mis. Mae Llyr Morus yn cynhyrchu a Huw Chiswell yn cyfarwyddo. Llinos Gerallt (Yr Amgueddfa, Rownd a Rownd, Pobol y Cwm), yw awdur y ddrama.
Mae’r gyfres mewn cynhyrchiad nawr a caiff ei darlledu ar S4C yn 2028.
Y Streic Fawr
Bydd Y Streic Fawr, drama tair rhan gan Cynyrchiadau Mojo, yn dilyn hanes un o’r anghydfodau diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Mae 30 Ebrill 2026 yn nodi 25 mlynedd ers i 86 o weithwyr y ffatri rhannau ceir ddechrau ar streic hirfaith yn dilyn newidiadau i’w tâl ac amodau gwaith. Parhaodd y brotest am bron i dair blynedd. Er i’r gweithwyr ennill eu hachos yn y llysoedd, ni chafodd y cwmni - a gafwyd yn euog o dorri’r gyfraith - unrhyw gosb gan Lywodraeth Prydain. Ni dderbyniodd y gweithwyr yr iawndal am y ddwy flynedd ac wyth mis o fod ar y llinell biced.
A hithau wedi’i seilio ar brofiadau go iawn y gweithwyr a’u teuluoedd, mae’r ddrama yn gwneud defnydd helaeth o’u hatgofion i adrodd stori am arwroldeb y Cofi cyffredin a chyfnod cythryblus yn hanes Gogledd Orllewin Cymru. Bydd y gyfres yn rhoi gogwydd newydd drwy edrych ar yr effaith gafodd y Streic ar deuluoedd, ffrindiau a chymuned, gan ddilyn straeon personol y cymeriadau tu hwnt i’r llinell biced.
Yn y prif gast mae Rhodri Trefor (Gwlad yr Astra Gwyn; White Gold; The Indian Doctor) yn portreadu Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru. Mae Gruffudd Glyn (Steeltown Murders; The Martian) yn chwarae rhan Gerald Parry, areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd gysylltiedig â’r streic, tra bod Rhys ap Trefor (Pobol y Cwm; Dal y Mellt; Torchwood) yn portreadu John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli’r 86 o weithwyr yn y llys.
Ymhlith aelodau eraill y cast mae Carwyn Jones , Sion Eifion, Emyr Gibson, Catrin Powell, Manon Wilkinson a Betsan Ceiriog.
Mae’r gyfres wedi’i chynhyrchu gan Llyr Morus, ei hysgrifennu gan Ffion Dafis, ac wedi’i chyfarwyddo gan Huw Chiswell. Mae’r ffilmio eisoes wedi dechrau yn ardal Caernarfon, gyda’r bwriad o ddarlledu’r gyfres ar S4C yn hwyrach eleni.
Meddai Llyr Morus, Cynhyrchydd Y Streic Fawr:
“Fel un a gafodd ei fagu yng Nghaernarfon, sy’n cofio canu corn wrth basio’r gweithwyr ar y lein a mynd i’r ralïau ar Y Maes, mae cael dweud y stori yma, a’r ffaith bod y gweithwyr wedi ymddiried yn Cynyrchiadau Mojo i wneud hynny’n fraint.
“Mae’r aberth wnaeth yr 86 o ddynion a merched bum mlynedd ar hugain yn ôl yn anferthol. Arweiniodd yr aberth yna at newid oedd am sicrhau gwell amodau gwaith i weithwyr y dyfodol, felly mae’r diolch yn fawr iddyn nhw. Mae nodi’r hanes yn bwysig ar gyfer addysgu cenedlaethau’r dyfodol - “Ni heddiw, Chi fory”.
“Hyd heddiw mae effaith y streic i’w weld yng Nghaernarfon gyda ffrindiau, teuluoedd a chymunedau wedi ei chwalu. Mae’n bwysig bod y stori hon yn cael ei dweud yn onest, gyda chydbwysedd a gyda hiwmor, ffraethineb ac angerdd y Cofi.”
Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:
“Mae Y Streic Fawr yn dod â stori un o’r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw yn hanes modern Cymru’n fyw gyda grym i’n gwylwyr; stori sy’n dal i losgi oherwydd yr anghyfiawnder dwfn sydd wrth ei chraidd.
“Nid edrych yn ôl yn unig mae’r cynhyrchiad hwn - mae’n herio, yn ysgwyd, ac yn mynnu sylw. Gyda drama afaelgar a llawn tensiwn, mae’n taflu goleuni miniog ar y gwir, gan sicrhau nad yw’r hanes hwn yn pylu nac yn diflannu.”





Yr Alwad
Prosiect drama cyffrous ac arloesol ar gyfer cynulleidfa 16-24 ‘Hansh’ S4C.
Dros 7 galwad ffôn rhwng Dylan a'i fam, Emma, bydd y galwadau ffôn yn mynd â'r gynulleidfa ar daith o ddatblygiad noson allan hwyliog Dylan gyda criw o ffrindiau yng Nghaerdydd i erchylldra ei sefyllfa wrth iddo gael ei ddilyn a'i wawdio gan griw o arteithwyr. Gall ei fam neud dim ond gwrando, phoeni a thorri ei chalon yn ei chartref yn y Rhondda wrth i'w mhab gael ei guro.
Bydd fersiwn 7 x 2’ ar gyfer Hansh (TikTox / YouTube) ac ffilm fer 1 x 15’ ar gyfer S4C llinol a gwyliau ffilm. Dyma’r gyfres ‘Microdrama’ / ‘Verticaldrama’ gyntaf yn y Gymraeg.









