Comedi
Mwynhewch ein arlwy o gomedi
Ein cyfresi comedi
Darganfod mwy am ein hamrywiaeth o rhaglenni comedi.
BRO
7 Diwrnod o Ddychan…. BRO ar gael ar YouTube S4C, Clic ac iPlayer
Mae Dylan yn diwtor Cymraeg llawrydd sy’n byw ym Mhenarth. Tra’n rhoi sesiwn ‘Gloywi Iaith’ i Chloe, Zoomer indiscreet sy’n detio scaffolder lleol chwantus, daw Teg, ei denant or-bryderus i darfu ar y wers. All amseru Teg ddim bod yn waeth, gan fod Dylan yn ceisio creu argraff ar Haf, rheolwraig Caffi Clecs, a dianc dros furiau’r friendzone y mae hi wedi’i gaethiwo ynddo ers tro byd.
Mae’r bennod 10 munud wedi ei a’i ysgrifennu gan Cai Evans, cynhyrchwyd gan Llyr Morus, Cynyrchiadau Mojo a’i gomisiynu gan Beth Angell fel rhan o gyfres o gomediau digidol newydd ar gyfer sianel YouTube S4C.
Mae’r penodau i’w gweld ar:




7 Diwrnod o Ddychan….Mission: Cymru ar gael ar YouTube S4C, Clic ac iPlayer
Pennod mewn cyfres gomedi newydd ar gyfer sianel YouTube S4C wedi ei chynhyrchu gan Cynyrchiadau Mojo:
Pan fydd Cymru’n pleidleisio’n annisgwyl dros annibyniaeth, agorir dirprwyaeth ddiplomyddol bach yn gyflym yn yr CU yng Ngenefa. Mae staff y swyddfa a gweithwyr intern ifanc yn gorfod deall y realiti hwn yn gyflym. Does ganddyn nhw ddim cyllideb, dim Wi-Fi, a dim cliw. Ond mae cenhadaeth Gymreig newydd i'r UD efallai’n newid gwleidyddiaeth y byd— un darn bach o Gymru ar y tro.”
Mae’r bennod 10 munud wedi ei chreu a’i chyd-ysgrifennu gan Tane Rogers-Eirug a Jac Ifan Moore, cynhyrchwyd gan Llyr Morus, Cynyrchiadau Mojo a’i gomisiynu gan Beth Angell fel rhan o gyfres o gomediau digidol newydd ar gyfer sianel YouTube S4C.
Mae Mission: Cymru wedi ei selio'n fras ar brofiadau Tane tra’n gweithio yn swyddfeydd y Cynhedloedd Unedig.
Mae’r penodau i’w gweld ar:




